Dysgwch fwy am yr hyn y mae asesiad gofal cymdeithasol yn ei gynnwys.
Beth yw Asesiad Gofal Cymdeithasol?
Mae Asesiad Gofal Cymdeithasol, a elwir hefyd yn sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, yn drafodaeth gydag aelod o’r tîm gwaith cymdeithasol i ddeall eich cryfderau a nodi meysydd ble rydych efallai angen cefnogaeth. Mae pob asesiad wedi’i deilwra i chi ac fel arfer yn cwmpasu:
- Eich iechyd a heriau dyddiol
- Cefndir crefyddol, diwylliannol, a rhwydwaith cefnogi
- Trefniadau byw
- Nodau personol a’r risgiau o beidio â’u cyflawni
- Rhwystrau i’ch nodau a ffyrdd o’u goresgyn
- Mewnbwn gan eich gofalwr, os oes gennych ofalwr ac yn dewis eu cynnwys
Bydd yr aseswr yn cwrdd â chi - fel arfer wyneb yn wyneb, ond mae ar-lein neu dros y ffôn yn bosib hefyd - i ddysgu sut yr ydych yn ymdopi â thasgau bob dydd. Gyda’ch caniatâd, gallent hefyd siarad â gweithwyr proffesiynol fel eich Meddyg Teulu neu nyrs i gael darlun llawn o’ch anghenion gofal. Y nod yw deall pa gefnogaeth yr ydych ei hangen rŵan ac yn y dyfodol.
Pwy sy’n gallu cael Asesiad Gofal Cymdeithasol?
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, neu yn Sir y Fflint ar hyn o bryd ac nad ydych fel arfer yn byw yn unrhyw le arall, mae dyletswydd arnom i asesu eich anghenion os:
- ydych efallai angen gofal a chymorth; neu
- yn ofalwr sydd efallai angen cefnogaeth.
Nid yw bod â’r hawl i gael asesiad bob amser yn golygu y byddwch yn derbyn gwasanaethau gan y cyngor. Mae’r asesiad yn ein helpu ni i ddeall eich sefyllfa a pha gefnogaeth a allai fod ar gael.
Eich Cynllun Gofal a Chymorth
Ar ôl eich Asesiad Gofal Cymdeithasol, os yw’n dod i’r amlwg bod gennych anghenion gofal cymwys, bydd Cynllun Gofal a Chymorth yn cael ei lunio gyda’ch mewnbwn. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu’r gefnogaeth yr ydych ei hangen a sut y bydd yn cael ei darparu, gan helpu i sicrhau eich bod yn derbyn y gofal cywir.
Bydd eich cynllun yn cynnwys:
- Eich anghenion gofal a’ch nodau
- Pa gefnogaeth fydd yn cael ei darparu a gan bwy
- Cyngor ar leihau neu atal anghenion yn y dyfodol
- Cost eich gofal a’ch cyllideb bersonol
- Unrhyw daliadau uniongyrchol a gytunwyd arnynt
Fe allai cefnogaeth gynnwys addasiadau i’r cartref, cymorth gan ofalwyr, larymau personol, gwasanaethau adsefydlu, gweithgareddau cymdeithasol mewn canolfannau dydd, neu le mewn cartref gofal. Byddwch yn derbyn copi o’ch cynllun, sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich amgylchiadau unigol chi.
Mae’n bwysig cofio bod pob asesiad a chynllun gofal wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion unigol. Hyd yn oed os yw eich sefyllfa’n ymddangos yn debyg i sefyllfa rhywun arall, fe allai’r gefnogaeth yr ydych yn ei chael fod yn wahanol - oherwydd efallai nad yw beth sy’n gweithio orau i chi am fod yr un fath â beth sy’n gweithio orau i rywun arall.