Safonau Iaith Gymraeg
Bydd Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddisodli gan y Safonau Iaith Gymraeg newydd ar 30 Mawrth 2016. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi rhybudd i bob Cyngor yng Nghymru yn nodi'r Safonau mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â hwy.
Nod y Safonau yw i barhau a datblygu gwaith Cynlluniau Iaith Gymraeg:
- gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau yn y Gymraeg
- cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg
- ei gwneud yn glir i sefydliadau yr hyn sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg
Mae’r Safonau yn ymdrin â darparu gwasanaeth, llunio polisïau, gweithredol, hyrwyddo a chadw cofnodion.
Safonau’r Gymraeg ar gyfer Cyngor Sir y Fflint
Hysbysiad Cydymffurfio - Iaith Gymraeg
Mae rhagor o wybodaeth am Safonau’r Gymraeg ar gael ar wefan
Os ydych am gwyno oherwydd eich bod yn amau nad yw Cyngor Sir y Fflint yn cydymffurfio â’r safonau Iaith Gymraeg, defnyddiwch drefn gwyno’r Cyngor.
Strategaeth Bum Mlynedd Hynwyddo’r Iaith Gymraeg
Proffil siaradwyr Cymraeg yn Sir y Fflint
Tabl: Gwybodaeth am y Gymraeg (2001 a 2011)
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2001
|
Sir y Fflint
|
Cymru
|
2001
Cyfrifiad
|
2011 Cyfrifiad
|
2001 Cyfrifiad
|
2011 Cyfrifiad
|
%
|
No.
|
%
|
%
|
%
|
Pawb dros 3+
|
-
|
146,940
|
-
|
-
|
-
|
Yn gwybod dim Cymraeg
|
78.6%
|
116,736
|
79.4%
|
71.6%
|
73.3%
|
Yn deall Cymraeg llafar yn unig
|
4.4%
|
7,503
|
5.1%
|
4.9%
|
5.3%
|
Yr holl siaradwyr Cymraeg
|
14.4%
|
19,343
|
13.2%
|
20.5%
|
19.0%
|
Siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg
|
10.9%
|
13,650
|
9.3%
|
16.3%
|
14.6%
|
Mae gwybodaeth fanylach ar broffil y siaradwyr Cymraeg yn y sir ar gael yn Stats Cymru.