Alert Section

Blog Sir y Fflint Ddigidol

Newyddion Sir y Fflint Ddigidol o fis Mawrth 2022

Mawrth 2022


Fel y gwyddoch chi o bosibl, mae ymgynghoriad wedi cael ei gynnal ar y Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer Sir y Fflint, ac wrth i ni aros am y canlyniadau, roeddem ni’n meddwl y byddai’n syniad da cyflwyno ein ‘blog digidol’ cyntaf i roi gwybod i chi am yr holl waith da sy’n mynd rhagddo yn Sir y Fflint.

Mae wedi bod yn gyfnod prysur ers i ni lansio Canolbwynt Digidol Sir y Fflint ym mis Medi - adnodd ar-lein i helpu trigolion i ddarganfod technoleg ddigidol a magu hyder yn eu sgiliau digidol.   Os nad ydych chi eisoes wedi ymweld â’r dudalen, ewch i gael golwg ar Ganolbwynt Digidol Sir y Fflint - rydym yn diweddaru ac ychwanegu at y dudalen yn rheolaidd.

Os byddwch yn sylwi bod rhywbeth ar goll - rhowch wybod i ni er mwyn i ni fedru ei ychwanegu.

Cysylltwch â communication@flintshire.gov.uk.

Rydym hefyd wedi sefydlu dau ganolbwynt arall - er mwyn i bobl fedru canfod a deall gwybodaeth am wasanaethau a phynciau amrywiol yn hawdd - megis EtholiadauTaliadau Uniongyrchol a Phrentisiaethau.  Mae gennym ragor ohonynt ar y gweill er mwyn helpu pobl i ganfod gwybodaeth ar ein gwefan.


Fy Nghyfrif

Cyfrif personol ar-lein sy’n caniatáu i drigolion a chwsmeriaid gael mynediad at nifer o wasanaethau sy’n berthnasol iddyn nhw ar-lein yw Fy Nghyfrif, a lansiwyd yn 2019. 

Gallwch gofrestru eich plentyn ar gyfer lle yn yr ysgol, gwirio eich diwrnod casglu neu ganfod manylion cyswllt ar gyfer eich cynghorydd lleol yn ogystal â chofnodi ymholiadau ac olrhain eu cynnydd ar-lein.

Refeniw a Budd-daliadau yw’r gwasanaeth mwyaf diweddar i fynd yn fyw. Mae ar gael 24/7 felly gallwch gael mynediad ato ar adeg ac mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi. Mae’r broses o gofrestru’n gyflym ac yn syml. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/My-Account.aspx a chofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny.    


Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a Chanolfan Gyswllt

Rydym yn deall nad yw pawb yn gallu defnyddio’r we, felly mae gennym bum Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar draws y sir yn y Fflint, Treffynnon, Bwcle, Yr Wyddgrug a Chei Connah.   

Mae’r Canolfannau hyn yn clymu Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru, Y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau partner eraill ynghyd i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. 

Rydym ar hyn o bryd yn ystyried darparu’r Canolfannau hyn fel adnodd ar-lein er mwyn cynnig cymorth digidol i’r cyhoedd ac unigolion diamddiffyn yn ein cymunedau.   Rydym hefyd yn ystyried cynnal ‘Cymorthfeydd Digidol’ yn y Canolfannau i helpu a chynghori pobl sy’n awyddus i ddefnyddio’r we neu ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael ar-lein. 

Yn ogystal â’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, mae gennym hefyd Ganolfan Gyswllt sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth dros y ffôn ar 01352 702121. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau mewn perthynas â’r Strategaeth Ddigidol, cysylltwch â ni ar communication@flintshire.gov.uk.  


 Cyng Billy Mullin, 
Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Llywodraethu) ac Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau 

  • Cllr Billy Mullin
  • Cyng Billy Mullin 
  • Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Llywodraethu) ac Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau

  • Sir y Fflint Canolbwynt Digidol
  • Mynd Ar-lein a Cefnogaeth Ddigidol
  • Cadw'n Ddiogel Ar-lein
  • Cymorth a Chyngor Digidol
  • Y Gymuned Ddigidol
  • Adnoddau Iechyd a Lles
  • Cyngor Digidol
  • Digwyddiadau a Gweithgareddau Digidol
  • Gwirfoddolwyr Digidol