Arolwg Landlordiaid Sector Rhentu Preifat Sir y Fflint
Mae arc4 wedi cael ei benodi gan Gyngor Sir y Fflint i gyflawni adolygiad o’r sector rhentu preifat ar draws y Sir. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith blaenorol gyda’r nod o ddarparu dealltwriaeth glir a chyfredol o’r ffordd y mae’r sector yn newid, gan gynnwys cyflenwad, fforddiadwyedd, ymddygiad landlordiaid a mynediad at dai.
Rydym yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan y landlordiaid i ddeall eich profiadau, sut mae’r farchnad yn gweithredu’n ymarferol, a sut all hyn newid dros amser. Bydd eich adborth yn helpu’r Cyngor i ddeall rôl y sector rhentu preifat yn well, yr heriau mae landlordiaid yn eu hwynebu, a pha gefnogaeth neu ymyraethau sydd eu hangen wrth symud ymlaen.
Dweud Eich Dweud ar y Sector Rhentu Preifat yn Sir y Fflint
Gallwch ddilyn ein sianeli Facebook a Twitter drwy ddilyn y dolenni isod: