Alert Section

Cynllunio Adnoddau i Gefnogi Darpariaeth

Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu manwl i gyd-fynd â'r Strategaeth sy'n seiliedig ar 4 ffrwd waith.

  1. Fframwaith Strategol
  2. Technolegau a Systemau
  3. Ymwybyddiaeth a Sgiliau
  4. Ffyrdd Newydd o Weithio

Ym mhob ffrwd waith bydd gweithgareddau yn amrywio o’r rhai hynny sy’n gymharol gyflym a hawdd i’w cyflawni i’r rhai hynny sydd, ar hyn o bryd, yn uchelgeisiol ond na fyddem eisiau colli golwg ohonynt. Hefyd, bydd gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol oes y Strategaeth, yn enwedig o ran cydymffurfiaeth, sy’n adlewyrchu gweithgaredd busnes fel arfer, ond sydd angen eu cydnabod fel sylfeini hanfodol ar gyfer Rheoli Gwybodaeth a Data’n effeithiol.

Cydnabyddir darpariaeth y strategaeth hon fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer y sefydliad, ond mae arnom angen darparu ar gyfer ei chyflawni o fewn ein hadnoddau cyfyngedig, a chyd-fynd ag ystod o flaenoriaethau paralel a chystadleuol.  Yn unol â hyn, bydd amserlenni penodol ar gyfer amcanion sydd wedi’u diffinio yn y cynllun gweithredu yn cael eu rheoli drwy’r broses cynllunio busnes.  Bydd angen gwneud penderfyniadau am flaenoriaethau tymor byr, gan gydnabod y bydd rhai elfennau o’r cynllun gweithredu yn ymestyn tu hwnt i gyfnod y strategaeth (2021-2026).