Alert Section

Y Weledigaeth

Rydym eisiau newid canfyddiad a rôl gwybodaeth a data ar draws y sefydliad, gan eu cydnabod fel adnodd corfforaethol allweddol ac ased sy'n gallu ein cefnogi wrth wella gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer ein cwsmeriaid a'n gweithwyr.

Mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn cael eu hystyried yn adnodd TG, a bod ganddynt berchnogaeth ehangach, wrth gydweithio gyda’n partneriaid byddwn yn gallu cyflawni’r canlyniadau canlynol:

Cydymffurfio â Deddfwriaeth a Rheoliadau 

  • Rydym yn hyderus bod ein gwybodaeth a data yn cael eu cadw’n ddiogel, gyda gweithdrefnau cadw a gwaredu cadarn ar waith ar gyfer cofnodion ffisegol a digidol.
  • Gallwn ddangos bod gennym fframwaith clir ar gyfer ail-ddefnyddio a rhannu gwybodaeth a data rhwng ein gwasanaethau a gyda’n partneriaid, sy’n cael ei gyfathrebu’n briodol i gwsmeriaid.
  • Mae gennym adnoddau a systemau mewn lle i’n galluogi ni i ymateb yn effeithiol i geisiadau hawl i wybodaeth.
  • Rydym yn cynnal safonau uchel, gydag achrediad yn dystiolaeth o gadernid ein dull.

Effeithlonrwydd a Gwerth am Arian

  • Rydym yn gwneud cynnydd o ran cael gwared ar ddyblygu ymdrechion ac osgoi ailgyflwyno data a lleihau’r baich cysylltiedig o storio a rheoli.
  • Rydym yn gwneud cynnydd o ran cyfuno gwasanaethau a rhannu ac ail-ddefnyddio gwybodaeth a data’n briodol, yn fewnol a gyda’n partneriaid, er budd ein cwsmeriaid.

Canlyniadau i Gwsmeriaid

  • Mae ein gwasanaethau’n hygyrch yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • A yw’n hawdd iddynt ganfod gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain neu’r Cyngor pan fo angen?
  • Gall fwyfwy o gwsmeriaid ddefnyddio adnodd hunan-wasanaeth yn ddigidol.
  • Mae ein gwasanaethau’n cydweithio’n ddoeth i rannu ac ail-ddefnyddio gwybodaeth a data’n briodol i gyflawni canlyniadau gwell i gwsmeriaid.