Alert Section

Os fyddwn yn gwneud hyn yn iawn, sut fydd yn edrych?

Pan mae gwybodaeth a data'n cael eu rheoli'n dda ac yn cael eu cydnabod fel ased corfforaethol allweddol, gallant ddarparu ystod o fuddion i gwsmeriaid, gweithwyr a'r Cyngor a'i bartneriaid yn ehangach.

Cwsmeriaid

  • Mae gwybodaeth a data yn gywir, dibynadwy a hygyrch.
  • Pan mae angen cymorth gan y Cyngor, mae’r wybodaeth sydd ei hangen yn hawdd i’w chanfod.
  • Mae gwasanaethau a chefnogaeth yn fwyfwy hygyrch yn ddigidol ar adeg sy’n gyfleus i’r cwsmer.
  • Pan geisir gwasanaethau neu gefnogaeth, mae’r ymateb yn brydlon ac yn effeithiol ac mae gwasanaethau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd.
  • Bydd hyder cynyddol bod gwybodaeth cwsmeriaid yn ddiogel ac yn cael ei defnyddio’n briodol.
  • Bydd penderfyniadau sy’n effeithio ar gwsmeriaid yn dryloyw gyda chynnydd mewn atebolrwydd.

Gweithwyr

  • Mae’r wybodaeth sydd ar weithwyr ei hangen i wneud eu gwaith yn effeithiol yn gwbl hygyrch.
  • Bydd gwell mynediad i’r data yn cefnogi penderfyniadau gwell a chanlyniadau gwell ar gyfer ein cwsmeriaid.
  • Bydd gwasanaethau’n gweithio’n fwy effeithiol a hyderus mewn cydweithrediad â phartneriaid a gwasanaethau eraill.
  • Mae gwybodaeth a data’n cael eu hail-ddefnyddio a’u rhannu’n fwy effeithiol, mae llai o ddyblygu, ac mae gwasanaethau’n fwy effeithlon.
  • Mae dealltwriaeth glir o’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â chasglu, storio, rhannu, gwaredu a chadw data.
  • Bydd mwy o hyder o ran cydymffurfio â chyfrifoldebau cyfreithiol. 

Gwasanaethau’r Cyngor

  • Bydd yn ymatebol i ddisgwyliadau newidiol y cwsmer o ran mynediad i wasanaethau’n ddigidol.
  • Bydd data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio’n effeithiol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
  • Bydd unrhyw achosion o ddyblygu yn cael eu nodi a’u lleihau i gynyddu gwerth am arian.
  • Gallwn ddangos bod gwybodaeth a data’n cael eu cadw’n ddiogel a’u defnyddio’n gyfrifol, yn unol â’r gyfraith.
  • Rydym yn fwyfwy tryloyw o ran y ffordd rydym yn dylunio ac yn rhedeg gwasanaethau ac yn gadael i’n hunain gael ein dal i gyfrif.
  • Bydd gwybodaeth gywir, gyfredol sy’n cydymffurfio yn cefnogi’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud ynglŷn â blaenoriaethau, polisïau a dyluniad a darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.
  • Rydym yn diogelu ac yn cadw gwybodaeth a data er budd cenedlaethau’r dyfodol.
  • Gallwn weithio’n fwy effeithiol gyda’n partneriaid i ddarparu dull mwy cydlynol i ddarparu canlyniadau gwell ar gyfer ein cwsmeriaid.