Alert Section

Llywodraethu

Mae Rheoli Gwybodaeth a Data yn ffrwd waith allweddol yn Strategaeth Ddigidol y Cyngor ac felly bydd gofyniad i adrodd ar y cynnydd yn erbyn darpariaeth y Strategaeth hon i'r Bwrdd Strategaeth Digidol.

Bydd y Bwrdd Strategaeth Digidol yn gyfrifol am:

  • Gymeradwyo a blaenoriaethu unrhyw geisiadau am adnoddau i gyflawni camau gweithredu sy’n cefnogi darpariaeth y Strategaeth hon yn dilyn cyflwyniad achos busnes.
  • Bydd y Bwrdd Strategaeth Digidol yn defnyddio cyfres o feini prawf diffiniedig i asesu a blaenoriaethu achosion busnes, gan sicrhau eu bod wedi'u halinio a blaenoriaethau ac uchelgeisiau Strategaeth Ddigidol y Cyngor.

Mae’r Bwrdd Rheoli Gwybodaeth a Data yn gyfrifol am:

  • Oruchwylio a sicrhau bod y Strategaeth hon yn cael ei darparu’n effeithiol.
  • Adrodd ar gynnydd i’r Bwrdd Strategaeth Digidol.
  • Monitro ac adrodd ar gydymffurfiaeth yn erbyn targedau perfformiad corfforaethol cysylltiedig.
  • Nodi a rheoli materion a risgiau cysylltiedig, gan eu huwchgyfeirio i’r Bwrdd Strategaeth Digidol pan fo angen.
  • Adolygiad parhaus o’r Strategaeth i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn adlewyrchu gofynion newidiol y Cyngor a’i gwsmeriaid.

Cyflawni

  • Mae’r Bwrdd wedi’i lunio o gynrychiolwyr o bob maes o’r sefydliad.
  • Bydd aelodau’r Bwrdd yn gyfrifol am hyrwyddo nodau, amcanion a chynnydd y Strategaeth o fewn eu meysydd gwasanaeth eu hunain.
  • Bydd aelodau’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw weithgaredd cysylltiedig o fewn eu meysydd gwasanaeth eu hunain yn cael eu cyflawni.