Newydd Llais Digidol
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan BT.
Mae newidiadau i ddod yn y modd y mae’r system ffôn yn gweithio ar draws y DU ac mae’n bwysig bod ein preswylwyr yn deall effaith hyn arnynt.
Mewn partneriaeth gyda BT, rydym yn rhannu gwybodaeth bwysig am ‘Digital Voice’ i sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pa newidiadau sydd i ddod a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan BT yn amlinellu sut y bydd isadeiledd ffonau’n newid, cynlluniau BT, a sut y gall preswylwyr baratoi ar gyfer Digital Voice.
"Mae llinellau tir yn y DU yn mynd yn ddigidol.
Erbyn 2025, bydd y dechnoleg analog bresennol (y PSTN - Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus) sydd wedi cefnogi gwasanaethau ffôn a band eang ers degawdau yn cael ei diffodd a’i disodli gan dechnoleg ddigidol newydd.
Bydd yr uwchraddiad unwaith mewn cenhedlaeth yn golygu y bydd mwyafrif helaeth y cwsmeriaid yn derbyn llinell band eang, gan wneud galwadau fel y maent heddiw, ond gan ddefnyddio technoleg ‘Llais dros y Rhyngrwyd’ sy’n defnyddio cysylltiad gyda’r rhyngrwyd.
Mae’r mwyafrif wedi bod yn defnyddio’r math yma o dechnoleg ers blynyddoedd drwy apiau fideo neu negeseuon llais ar ffonau symudol.
Voice yw gwasanaeth ffôn cartref newydd BT, sy’n cael ei ddarparu dros gysylltiad band eang. Ar gyfer mwyafrif y cwsmeriaid, bydd y newid i Digital Voice mor syml â chysylltu ffôn y cartref gyda llwybrydd yn hytrach na soced ffôn ar y wal.
Mae ymagwedd ranbarthol BT yn cael ei chefnogi gan ohebiaeth i godi ymwybyddiaeth gyffredinol yn lleol, digwyddiadau lleol ac ymgyrchoedd hysbysebu i godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo cwsmeriaid i ddeall y camau syml sydd eu hangen i symud i Digital Voice.
Byddant yn cysylltu â chwsmeriaid o leiaf 4 wythnos cyn y newid, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y newid.
- Cwsmeriaid gyda chortyn gwddf gofal iechyd
- Cwsmeriaid sy’n defnyddio llinell dir yn unig
- Cwsmeriaid heb signal ffôn symudol
- Cwsmeriaid sydd wedi nodi unrhyw anghenion ychwanegol
Bydd BT yn treulio amser ychwanegol ac yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid sydd dros 70 oed ac sy’n barod ar gyfer y newid.”
Mae’n bwysig bod trigolion yn ymgysylltu gyda BT i sicrhau bod eu hanghenion unigol yn cael eu deall a’u datrys yn y broses o newid.
Gyda’i gilydd, drwy gydweithio gyda BT, gall preswylwyr bontio’n llyfn a bydd yn brofiad syml i bawb.
RHYBUDD
Wrth i BT gysylltu â phreswylwyr Sir y Fflint ynglŷn â’r newid i Digital Voice, dylai preswylwyr fod yn wyliadwrus gan y gallai rhai twyllwyr fanteisio ar y cyfnod pontio, gan ffugio bod yn gynrychiolwyr dilys i geisio gwybodaeth bersonol.
Dylai’r preswylwyr wirio dilysrwydd unrhyw ohebiaeth gan BT.
Mae Tlodi Digidol yn flaenoriaeth i ni yng Nghyngor Sir y Fflint, ac fel sefydliad rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ein trigolion ni’n cael eu cau allan o’r byd digidol.
Un ffordd yr ydym ni'n bwriadu gwneud hyn yw trwy ein Sgwad Cymorth Digidol. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn rhoi cymorth wyneb yn wyneb i helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol - yn rhad ac am ddim.
Bydd y cyntaf o’r sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cyflwyno yn ein Canolfan Treffynnon yn Cysylltu a byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhannu hyn â’ch rhwydweithiau yn Sir y Fflint a’ch helpu chi i roi gwybod i eraill am y gwasanaeth gwych hwn!
Sut mae’n gweithio
Bydd cwsmeriaid yn dod a’u dyfais ddigidol eu hunain a byddan nhw’n cael eu cefnogi gan dîm y Sgwad Cymorth Digidol.
Mae ein Sgwad ni wedi cael eu hyfforddi gan @DigitalCommunitiesWales ar amrywiaeth o bynciau digidol yn cynnwys: arian, iechyd, cymdeithasol, cyflogaeth, cyfathrebu.
Bydd y Sgwad Cymorth Digidol yn:
- Helpu ac annog pobl i fynd ar-lein â’u cymorth nhw.
- Cefnogi pobl i ddefnyddio sianeli cyfathrebu modern yn cynnwys y we.
- Annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein y Cyngor i adrodd, gofyn neu dalu am wasanaethau.
- Hyrwyddo Fy Nghyfrif fel ffordd o gysylltu â'r Cyngor.
- Yn ogystal ag unrhyw anghenion digidol generig eraill sydd gan bobl.
Mae’r Arglwydd Barry yn cefnogi menter Cyngor Sir y Fflint ar ôl cael cefnogaeth gan ein Sgwad Ddigidol.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynhwysiant digidol ac yn cefnogi trigolion i ddatblygu eu sgiliau i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio o fyd digidol. Fel rhan o’r cynlluniau, mae gweithwyr wedi eu hyfforddi ac wedi sefydlu Sgwad Ddigidol sydd nawr yn teithio o amgylch y sir yn cynnal Cymorthfeydd Digidol, gan roi’r hyder i bobl ddefnyddio technoleg, am ddim. Gall y Sgwad Ddigidol gefnogi trigolion gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys defnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost, defnyddio gwasanaethau ar-lein a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Roedd yr Arglwydd Barry, seneddwr a wasanaethodd gymuned Sir y Fflint am dros 50 mlynedd, a’i wraig yr Arglwyddes Janet, yn ddau o’r ymwelwyr diweddaraf â’r Gymhorthfa Ddigidol. Bu i aelod o’r Sgwad Ddigidol, Ryan McCale, gefnogi’r cwpwl i gysylltu â’r rhyngrwyd i gael gwybodaeth a defnyddio ffôn symudol i ychwanegu cysylltiadau ac anfon negeseuon at eu hanwyliaid.
Dywedodd yr Arglwydd Barry: “Roeddwn angen dysgu hanfodion mynd ar-lein ac roedd gallu cael cymorth ar stepen fy nrws yn wych. Mae’r Sgwad Ddigidol yn glên, yn gefnogol ac yn amyneddgar ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hangerdd dros helpu pobl sydd â sgiliau digidol cyfyngedig fel fi.
“Maent yn cynnig cymorth digidol am ddim mewn cymunedau lleol ac rwy’n annog unrhyw un sydd eisiau cymorth i weld beth allant ei gynnig. Mae wir yn wasanaeth gwych. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw eto yn y dyfodol i ddatblygu fy sgiliau digidol.”
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Linda Thomas: “Rwyf wrth fy modd fod ein Cymorthfeydd Digidol yn cael eu cefnogi gan yr Arglwydd Barry. Mae hi mor bwysig fod trigolion yn cael y cymorth maent ei angen i ddefnyddio gwasanaethau yn y byd digidol, ac mae ein Sgwad Ddigidol yma i helpu.
“Rwy’n ategu sylwadau’r Arglwydd Barry ac anogaf bawb sydd angen cymorth i gymryd rhan.”
Daeganfod mwy
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Sefydliad Good Things i sicrhau bod trigolion ar incymau isel yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy’r Banc Data Cenedlaethol.
Bydd cardiau SIM a thalebau data yn cael eu dosbarthu am ddim gan ein pump Canolfan Gysylltu i drigolion cymwys, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae’r data wedi’i ddarparu am ddim gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.
Mae Sefydliad Good Things yn elusen sy’n helpu pobl i wella eu bywydau yn ddigidol ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor.
Fel rhan o weledigaeth ddigidol y Cyngor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl i gysylltu ar-lein, gan helpu trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd, cysylltedd data a theclynnau, er mwyn llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.
Categoriau
Cliciwch ar fotwm i neidio i'r ardal berthnasol