Dysgu ar-lein yn rhad ac am ddim er mwyn eich helpu i ddechrau arni ac i ddatblygu eich sgiliau digidol
Mae nifer o ddeunyddiau dysgu ar-lein ar gael yn rhad ac am ddim i chi ddatblygu eich sgiliau digidol – dyma rai i’ch helpu:
Learn My Way – cyrsiau ar-lein yn rhad ac am ddim i ddechreuwyr – datblygu eich sgiliau digidol. Dros 30 o gyrsiau am ddim wedi’u llunio i’ch helpu i ddeall yr elfennau sylfaenol am fynd ar-lein. Cliciwch ar
Learn My Way a dechreuwch eich taith ddigidol heddiw!
iDEA – Mae’r Wobr Ysbrydoli Menter Ddigidol, a elwir yn iDEA, yn rhaglen ryngwladol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau digidol, menter a chyflogadwyedd yn rhad ac am ddim.
Barclays Digital Wings – yn eich helpu i wella eich gwybodaeth ddigidol. Darganfyddwch sut i gadw’n ddiogel ar-lein, dysgwch sut i we-lywio’r cyfryngau cymdeithasol, darganfyddwch sut i wneud eich busnes yn hawdd i’w ddefnyddio’n ddigidol a llawer iawn mwy.
Cymunedau Digidol Cymru • Mae’r holl hyfforddiant yn rhad ac am ddim
• Mae pob sesiwn yn awr o hyd oni nodir yn wahanol
Gallwch weld pa hyfforddiant sydd ar gael drwy glicio
yma neu drwy ffonio 0300 111 50 50.
Ability Net – elusen yn y DU sy’n credu mewn byd digidol sy’n hygyrch i bawb – mae’n cynnig adnoddau yn rhad ac am ddim, cymorth yn y cartref a llawer iawn mwy.
Addysg Oedolion Cymru - Ewch i weld yr ystod o gyrsiau sydd ar gael ar-lein gan Addysg Oedolion Cymru - o Sgiliau Hanfodol i gyrsiau Busnes, gofal cymdeithasol, TG a llawer mwy.
Mae Dysgu Cymunedol Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam i ddarparu'r cyfleoedd a’r canlyniadau dysgu oedolion gorau yn ein cymunedau.
Maent yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau TG/digidol o lefel dechreuwyr i lefel uwch. Eu nod yw ymgysylltu a magu hyder, er mwyn i bawb fwynhau eu dysgu a’u bod yn datblygu.
I ddysgu mwy am y cyrsiau sydd ganddynt i’w cynnig, ewch i’w tudalen ar Facebook neu Twitter.
Digital Unite - 400+ o ganllawiau sut yn cynnwys ystod eang o destunau digidol.
Ysgrifennwyd gan arbenigwyr pwnc a diweddarwyd yn rheolaidd, mae’r canllawiau yn berffaith ar gyfer cefnogi eraill gyda sgiliau digidol neu i wella eich gwybodaeth eich hun.