Alert Section

Derbyniadau Ysgol

Yr hyn sydd angen ei ystyried

Byddwch angen creu Fy Nghyfrif gyda Sir y Fflint – peidiwch â phoeni os nad oes gennych gyfrif eto – cewch eich arwain drwy'r broses.

Fy Nghyfrif - Darganfod mwy

Yr hyn sydd angen ei gael

Byddwch angen rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad a chod post cywir.Ni ddylai’r cais gymryd mwy na 30 munud i’w gwblhau.

Ceisiadau a throsglwyddiadau Ysgol

Os ydych chi'n gwneud cais ar gyfer Blwyddyn 7 ym mis Medi 2023 nodwch mai'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau oedd 04.11.22, a bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried yn hwyr. Mae hyn yn golygu y gallai fod gan eich plentyn lai o gyfle i gael ei ddyrannu i'ch hoff ysgol.

I wneud cais yn awr, cliciwch ar y blwch “Ceisiadau Hwyr – Blwyddyn 7” yma.

Ceisiadau Hwyr – Blwyddyn 7

Os ydych chi'n gwneud cais ar gyfer Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2023 nodwch mai'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau oedd 18.11.22, a bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried yn hwyr. Mae hyn yn golygu y gallai fod gan eich plentyn lai o gyfle i gael ei ddyrannu i'ch hoff ysgol.

I wneud cais yn awr, cliciwch ar y blwch “Ceisiadau Hwyr – Derbyn” yma.

Ceisiadau Hwyr – Derbyn

Os ydych chi'n gwneud cais ar gyfer Meithrin ym mis Medi 2023 nodwch mai'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau oedd 23.03.23, a bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried yn hwyr. Mae hyn yn golygu y gallai fod gan eich plentyn lai o gyfle i gael ei ddyrannu i'ch hoff ysgol.

I wneud cais yn awr, cliciwch ar y blwch “Ceisiadau Hwyr – Meithrin” yma.

Ceisiadau Hwyr – Meithrin

Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr. Mae hyn yn golygu bod eich plentyn gael llai o gyfle i gael lle yn eich ysgol ddewisol os derbynnir eich cais ar ôl y dyddiad cau.

Ar gyfer addysg ôl-16 gwnewch gais uniongyrchol i’r ysgol neu goleg perthnasol.

Trosglwyddiadau Ysgol/Newid Ysgol

Gallwch  wneud cais i newid ysgol (er enghraifft, oherwydd eich bod yn symud tŷ) drwy glicio “Dechrau Arni” isod.

Dechrau

Ydych chi wedi ystyried ysgol cyfrwng Cymraeg?

Dim ots pa iaith ydych chi’n ei siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg gynnig cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn.

Yn wahanol i’r gred gyffredinol, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar Saesneg y disgybl a’r nod syml yw galluogi plant i ddod yn gwbl rhugl a hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Addysg Cyfrwng Cymraeg - Darganfod mwy
Welsh Dragon

Derbyniadau Ysgol – Cwestiynau Cyffredin

Beth yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau?

Amserlen ar gyfer derbyniadau i ysgolion
Cyfnod DerbynFfurflenni derbyniadau ar gael i rieni yn yr wythnos sy’n dechrauCyfnod ystyried i’r rhieniDyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni wedi’u llenwiCyfnod dyrannu gan yr awdurdod lleolHysbysu’r rhieni erbyn ("Dyddiad cynnig") 
Uwchradd 05/09/21 05/09/22 - 04/11/22 05/11/22 07/11/22 - 06/01/23 01/03/23
Derbyn  27609/22 26/09/22 -  18/11/22 18/11/22 21/11/22 - 24/02/23 17/04/23
Meithrin 26/09/22 26/09/22 - 17/02/23 17/02/23 20/02/23 - 24/03/23 04/05/23

A ddylwn i ddewis mwy nag un ysgol?

Gallwch ddewis cynifer o ysgolion ag y dymunwch. Gall y cais gynnwys ysgolion y tu allan i Sir y Fflint a byddwn yn hysbysu’r Cyngor perthnasol o’ch cais. (Fodd bynnag mae Gorllewin Swydd Caer a Chyngor Caer yn gofyn i chi ddefnyddio eu ffurflenni cais nhw ar gyfer ysgolion yn eu hardal)

Os ydych chi'n cynnwys ysgol enwadol (Eglwys) neu ysgol sefydledig ar eich cais, bydd yn cael ei anfon ymlaen at yr ysgol berthnasol gan nad Sir y Fflint yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion hyn.

Ein bwriad bob tro yw dyrannu’ch dewis cyntaf i chi ond os ydym yn derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn troi at y meini prawf gordanysgrifio ac os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hynny, gallwn ystyried eich ail ddewis ac yn y blaen nes y gallwn gynnig lle i'ch plentyn. Os ydych wedi nodi un ysgol yn unig, dim ond yr ysgol honno allwn ni ei hystyried. Sylwch na fydd rhestru’r un ysgol fwy nag unwaith yn rhoi gwell siawns i chi o gael lle yn yr ysgol honno.

Dim ond os ydych yn byw yn Sir y Fflint neu os yw’ch plentyn yn mynychu ysgol gynradd yn Sir y Fflint y dylech lenwi ffurflen gais Sir y Fflint. Fel arall gwnewch gais i’ch Cyngor eich hun – er enghraifft, os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, gwnewch gais i Gyngor Sir Ddinbych oni bai bod eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint.

Beth sy'n digwydd os na chaf i fy newis cyntaf?

Mae'r holl ddewisiadau yn cael eu prosesu a byddwn yn cynnig lle sydd ar gael yn yr ysgol sydd uchaf ar eich rhestr o ddewisiadau. Felly, os yw eich dewis cyntaf yn aflwyddiannus, caiff eich ail ddewis ei ystyried fel dewis cyntaf yn gyfartal â dewisiadau cyntaf eraill ar gyfer yr ysgol honno ac yn y blaen nes y byddwn yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol.

Beth os bydd fy holl ddewisiadau yn aflwyddiannus?

Gallwn roi enw'ch plentyn ar restr aros, gallwch dderbyn lle mewn ysgol arall sydd â lle i'ch plentyn ac mae gennych hawl i apelio.

Pa mor bwysig yw'r dyddiad cau?

Mae’n rhaid i'ch cais ddod i law erbyn y dyddiad cau neu fel arall bydd yn cael ei ystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd ar amser. Mae'r dyddiad a'r amser yn cael ei nodi ar geisiadau ar-lein wrth iddynt gael eu derbyn.

Lle gellir dod o hyd i’r meini prawf lle mae mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael?

Gellir ei ganfod yn ein Canllaw i'r Gwasanaethau Addysg ac maent wedi'u rhestru isod.

Bydd pob disgybl yn cael ei dderbyn os nad yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd. Fodd bynnag, os yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, a restrir yn nhrefn blaenoriaeth.

Meini Prawf Gordanysgrifio

Meini prawf i’w defnyddio gan yr Awdurdod Lleol, yn ôl trefn blaenoriaeth, ar gyfer derbyniadau i Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd:

  • Plant sy'n Derbyn Gofal (plant mewn gofal) a phlant oedd yn arfer derbyn gofal
  • disgyblion lle mai’r ysgol a ffefrir yw'r ysgol briodol agosaf i'w cyfeiriad cartref
  • c) disgyblion fydd â brawd neu chwaer yn mynychu’r ysgol a ffefrir ar y dyddiad derbyn disgwyliedig. Dim ond ar gyfer y cyfnod addysg statudol, h.y. hyd at Flwyddyn 11, y defnyddir y 'rheol brawd a chwaer'
  • disgyblion sydd wedi dewis ysgol wahanol i’r ysgol agosaf i’w cyfeiriad cartref. Ystyrir pellter cartrefi disgyblion o’r ysgol arall honno wrth dderbyn disgyblion, a hynny hyd at y Nifer Derbyn
Gwneud y Penderfyniad

Os oes mwy o ymgeiswyr nag o lefydd yn unrhyw un o’r categorïau uchod, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw agosaf i’r ysgol, gyda’r pellter wedi’i fesur o gyfeiriad cartref y plentyn i brif fynedfa gydnabyddedig yr ysgol.

Os nad yw’r awdurdod yn gallu diwallu dewis(iadau) rhiant, gofynnir i’r rhiant ystyried llefydd sydd ar gael mewn ysgolion eraill.

Lle enwir ysgol mewn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae ar yr awdurdod lleol ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol honno.

Pwy sy'n cael ei ystyried i fod yn frawd neu chwaer?

Diffinnir brawd neu chwaer fel brawd neu chwaer gyflawn, hanner brawd neu chwaer, llys frawd neu chwaer, brawd neu chwaer sydd wedi'u maethu neu eu mabwysiadu sy'n byw gyda'i gilydd mewn un aelwyd yn yr un cyfeiriad a lle bo'r brawd neu'r chwaer hŷn o oedran ysgol statudol h.y. Blwyddyn Derbyn i Flwyddyn 11, ac wedi'i gofrestru/chofrestru yn yr ysgol a ddewiswyd pan fydd y plentyn iau yn gymwys i fynychu. Ni fydd brodyr a chwiorydd sy'n mynd i Flwyddyn 12/13 pan fydd y plentyn iau yn dechrau ym Mlwyddyn 7 yn cael eu hystyried o dan y rheol brawd a chwaer.

Oes angen i mi gwblhau fy nghais ar-lein yn gyflym i sicrhau y caf gynnig fy newis cyntaf?

Caiff pob cais ei ystyried ar ôl y dyddiad cau nid yn ôl y dyddiad derbyn. Mae'r amser a roddir i rieni, tua 8 wythnos, wedi'i roi er mwyn iddynt allu ystyried eu dewisiadau yn ofalus.

Pryd fyddaf yn cael gwybod ym mha ysgol y cynigir lle i fy mhlentyn?

YSGOLION CYNRADD: Byddwch yn cael gwybod trwy e-bost ar y dyddiad cynnig sef 17 Ebrill ac ni fydd unrhyw fanylion yn cael eu rhoi cyn y dyddiad hwnnw.

YSGOLION UWCHRADD: Byddwch yn cael gwybod ar y dyddiad cynnig sef 1 Mawrth ac ni fydd unrhyw fanylion yn cael ei roi cyn y dyddiad hwnnw.

YSGOLION CYNRADD: Byddwch yn cael gwybod trwy e-bost ar y dyddiad cynnig sef 4 Mai ac ni fydd unrhyw fanylion yn cael eu rhoi cyn y dyddiad hwnnw.

A fydd fy mhlentyn yn cael cludiant am ddim i fy ysgol ddewisedig?

Mae’r polisi cludiant ar gael yn y Canllaw i'r Gwasanaethau Addysg ar y wefan o dan dderbyniadau ysgol

Beth os byddaf yn symud tŷ ar ôl y dyddiad cau?

Cyn belled â’ch bod yn darparu manylion unrhyw newidiadau i’ch dewisiadau a phrawf o symud tŷ cyn diwedd cyfnod dyrannu (gweler yr amserlen ar gyfer derbyniadau i ysgolion yn y Canllaw i’r Gwasanaethau Addysg) gallwn wneud y newidiadau ar eich rhan..